Dyma'r seithfed blaned oddi wrth yr Haul.
Ni ellir gweld Wranws â llygad noeth. O ganlyniad, hon oedd y blaned gyntaf i'w darganfod trwy ddefnyddio ysbienddrych yn 1781
Cylchdröir o amgylch Wranws mewn cyfeiriad gwahanol i holl blanedau eraill cysawd yr Haul, ac eithrio Sadwrn. Mae'n cymryd 17 awr a 14 munud i gwblhau un cylchdro. Mae'n cymryd 84 Blwyddyn Daear iddi gylchdroi o amgylch yr Haul.
Mae atmosffer Wranws wedi'i ffurfio o grisialau rhew dŵr, amonia a methan.
Mae'n cael ei galw'n gawr nwy oherwydd bod ganddi haen uwch o hydrogen a heliwm, ond mae gan Wranws hefyd fantell rewllyd o amgylch craidd creigiog. O ganlyniad, cyfeirir ati'n aml fel cawr rhew.
Gall tymheredd atmosffer Wranws syrthio'n is nag ar unrhyw blaned arall, yr holl ffordd i lawr i -224℃.
Mae cylchau Wranws yn llai amlwg na chylchau Sadwrn ac wedi eu ffurfio o ddarnau llai o ddefnydd. Ni chawsant eu darganfod tan 1977.
Mae gan Wranws 27 o leuadau y gwyddom amdanynt; gelwir pob un ohonynt ar ôl cymeriadau William Shakespeare ac Alexander Pope. Titania yw'r fwyaf ac mae tua hanner maint lleuad y Ddaear.
Un llong ofod yn unig sydd wedi ymweld ag Wranws.
Teithiodd y chwiliedydd Voyager 2 heibio iddi yn 1986 wrth iddo lywio drwy gysawd allanol yr haul.
Cymerodd Voyager 2 tua wyth mlynedd a phum mis i gyrraedd Wranws, ond aeth ei daith ag ef heibio Iau a Sadwrn yn gyntaf.
Ar hyn o bryd, ceir pum gwahanol gynnig ar gyfer teithio i Wranws yn y dyfodol, ond nid oes yr un ohonynt wedi pennu dyddiad lansio hyd yn hyn.
Defnyddiwch y wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau hyn:
Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau